
Chwarae yw proses sydd yn cwmpasu ymddygiad plentyn, sydd wedi’i ddewis yn rhydd, wedi’i arwain yn bersonol a’i ysgogi’n gynhenid.
“Dewis yn Rhydd”yw pan fo plant yn dewis pryd y maent yn chwarae a pha weithgaredd i’w ymgymryd ag ef felly nid yw’n rhan o raglen osod ac nid oes iddo unrhyw gamau y mae’n rhaid eu cwblhau.
“Wedi’i arwain yn bersonol”yw pan fo’r plant eu hunain yn cytuno ar rolau neu reolau’r gweithgaredd; nhw sydd yn penderfynu ar y canlyniadau, os oes rhai i fod.
“Wedi’i ysgogi’n gynhenid”yw pan fo rhywbeth yn cael ei wneud er ei les ei hun, ac nid ar gyfer unrhyw wobr, dystysgrif neu statws allanol.