
Yn 2003, datblygodd Rhondda Cynon Taf ‘Gadewch i’r Plant Chwarae’ sef strategaeth chwarae ar gyfer ardal Rhondda Cynon Taf a oedd yn gosod chwarae ar sylfaen fwy strategol. Ers rhoi ‘Gadewch i’r Plant Chwarae’ ar waith mae nifer o strategaethau newydd wedi’u rhyddhau sydd yn cydnabod pwysigrwydd chwarae plant ac yn hysbysu datblygiadau’r dyfodol o fewn Chwarae. Mae cryn dipyn o symud wedi bod yn Rhondda Cynon Taf o ran cyflawni’r amcanion wedi’u gosod o fewn ‘Gadewch i’r Plant Chwarae’.
Yn 2008, cydnabuwyd gan Fframwaith fod angen arolygu’r Strategaeth Chwarae bresennol. Cymdeithas Chwarae RhCT sydd wedi arwain yr arolwg fel rhan o’u gwaith. Ymgymerwyd â nifer o ddigwyddiadau ymgynghori â phlant a phobl ifainc, darparwyr chwarae a rhanddeiliaid allweddol. Canlyniadau’r ymgynghoriadau hyn sydd wedi hysbysu’r ddogfen o’r cychwyn cyntaf yn ogystal â chael ei hysbysu gan ddatblygiadau polisi a strategol diweddar. Mae’r Strategaeth Chwarae yn dal i fod ar ffurf drafft ond gobeithiwn ddatgan newyddion am ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.
Mae’r Strategaeth Chwarae wedi’i seilio ar yr ymrwymiad y mae Fframwaith wedi’i wneud o fewn Polisi Chwarae Fframwaith.