Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol ar gyfer Chwarae Plant gan roi cyngor ac arweiniad i gefnogi’r rhai sydd â diddordeb neu sydd yn gyfrifol am ddarparu ar gyfer chwarae plant fel bod Cymru, un diwrnod, yn dod yn rhywle lle rydym yn cydnabod ac yn rhoi darpariaeth dda er mwyn diwallu anghenion chwarae pob plentyn.
Gwaith Chwarae Cymru yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae, Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn cefnogi’r sector gwaith chwarae i gynnig gwasanaethau o safon i blant trwy hyrwyddo hyfforddiant ac addysg o safon a datblygu cymwysterau yng Nghymru.
Interlink yw’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol (CVC) ar gyfer Rhondda Cynon Taf gan gefnogi unigolion a mudiadau i gydweithio a chael effaith gadarnhaol ar fywydau’r bobl sydd yn byw a gweithio yn ardal RhCT.
BAVO yw’r mudiad ymbarél sydd yn cefnogi a hyrwyddo mudiadau gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, De Cymru, y DU.
Plant yng Nghymru yw’r mudiad ymbarél cenedlaethol ar gyfer y rhai sydd yn gweithio â phlant a phobl ifainc yng Nghymru a’n nod yw hyrwyddo diddordebau y grwpiau hyn a gweithredu er mwyn diwallu eu hanghenion. Rydym yn elusen gofrestredig a mudiad anllywodraethol annibynnol.
Clybiau Plant Cymru exists to help communities in Wales by promoting, developing and supporting quality, affordable, accessible out of school childcare clubs.
Y Rhwydwaith Chwarae Rhydd yw rhwydwaith o unigolion a mudiadau sydd yn anelu at hyrwyddo’r angen am gyfleoedd chwarae gwell i blant.
IPA EWNI yw cangen genedlaethol mudiad byd-eang a’i nod yw hyrwyddo, diogelu a chadw hawl y plentyn i chwarae.
Gwybodaeth ar Wasanaethau Chwarae Rhondda Cynon Taf yn cynnwys gwybodaeth ar Gynlluniau Chwarae a’r Llyfrgell Adnoddau Chwarae.