Chwarae Plant Supporting Children's Play

Chwarae Plant yw elusen Chwarae Plant ar gyfer ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae Chwarae Plant wedi'i sefydlu ar y cred bod chwarae yn hawl sylfaenol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc a'r nod yw hyrwyddo pwysigrwydd hanfodol y broses chwarae o ran datblygiad iach plant a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Mae'r Gymdeithas wedi ymrwymo i gefnogi datblygu cyfleoedd chwarae o safon. I'r diben hwn, mae Chwarae Plant yn cynnal amrywiaeth o weithredoedd yn cynnwys cynrychioli anghenion plant, pobl ifainc a darparwyr chwarae ar bartneriaethau a rhwydweithiau priodol. Rydym yn cynnal rhwydweithiau ar gyfer mudiadau a grwpiau cymunedol sydd yn cynnig cyfleoedd chwarae lle y mae modd rhannu anawsterau a llwyddiannau cyffredin a hyrwyddo arfer da.

Mae Chwarae Plant wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd chwarae heriol, deniadol a boddhaol o safon dda trwy gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad ar chwarae plant a darpariaeth chwarae.

Mae Chwarae Plant yn elusen sydd newydd ei sefydlu, Cymdeithas Chwarae RhCT gynt. Yn 2008, ymgymerodd Cymdeithas Chwarae RhCT â phrosiect newydd i ddatblygu ymhellach seilwaith chwarae ledled Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont. O ganlyniad, cafodd y mudiad ei ail-frandio'n llawn er mwyn gwell gynrychioli gwaith y dyfodol y mudiad.

Website Designed and Developed by Arts Factory Design